Blochdy

Menai Bridge, Anglesey North Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £487 yr wythnos
  • £70 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mwynhewch groeso cynnes yn y bwthyn diddorol hwn sydd gerllaw ffermdy'r perchennog ac sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, gyda golygfeydd ar draws Afon Menai i Gaernarfon ac Eryri o'r ardd a'r ystafell haul. Wedi ei leoli yng nghefn gwlad ger pentref Brynsiencyn, 5 milltir o bentref enwog Llanfarirpwllgwyngyll...., 7 milltir o draeth trawiadol Niwbwrch ac oddeutu 7 milltir o ddinas prifysgol Bangor.

'Roedd Fferm y Foel, sydd y tu allan i'r pentref, yn boblogaidd iawn gyda fy mhlant pan oeddent yn iau! Mae yma awyrgylch gyfeillgar ble mae'n bosib bwydo a dal yr anifeiliaid, mynd am dro ar y tractor, neu ar gefn y ceffyl. Ceir yma hefyd gaffi a gweithdy siocled ble gellir gweld y siocledi yn cael eu gwneud' gan Jacky, ein rheolwr llety lleol. 

Mae'r bwthyn yn llawn cymeriad, y rhan fwyaf ar un llawr gydag ambell i step y tu mewn. Mae Eira, y perchennog, yn byw drws nesaf, ac ar gael i helpu i wneud i'r gwyliau redeg mor esmwyth â phosib. Croesewir cwn yma. Gwres canolog a digon o le parcio. Croglofft agored, gyda grisiau serth yn arwain i fyny, yn rhoi ystafell wely ychwanegol gyda gwely sengl. 

Ystafell Fyw: ystafell ar gynllun agored wedi ei hadnewyddu yn defnyddio deunyddiau lleol wedi eu hadfer. Mae yna le tân trawiadol gyda stôf goed (basgedaid gyntaf o goed yn gynwysedig), teledu Freeview/DVD/CD, Amazon Alexa a Wifi (Band llydan cyflym). Ardal fwyta gyda bwrdd a chadeiriau. 

Y Gegin: wedi ei gwneud â llaw ac yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, popty trydan a meicrodon. Mae yna hefyd fynediad i beiriannau golchi a sychu dillad yn yr ystafell iwtiliti sy'n cael ei rhannu. 

Ystafell Haul: drws nesaf i'r ystafell fyw gyda golygfeydd o gaeau a'r ardd. Dodrefn cyfforddus a thân trydan.

Ystafell wely 1: gwely maint king yn edrych allan dros yr ardd, cwpwrdd dillad a radio.

Ystafell wely 2: dau wely sengl gyda golygfeydd o'r ardd a chwpwrdd dillad. 

Ystafell Grog: gyda gwely sengl ychwanegol - mynediad i fyny ysgol serth felly ddim yn addas ar gyfer plant ifanc. 

Ystafell ymolchi: uned gawod gyda chadair, rheilen sychu tywelion

Tu Allan: mae digon o le i barcio yn y ffrynt a gardd fach dlws. Yn y cefn mae lawnt gyda gôl pêl-droed, lle i eistedd a barbaciw. Golygfeydd anhygoel o afon Menai a chastell Caernarfon. 

Pentref bychan yw Brynsiencyn, mewn lleoliad delfrydol ar gyfer darganfod rhai o draethau gorau a safleoedd hanesyddol Ynys Môn. Y tu allan i'r pentref mae yna safle defodau hanesyddol sydd mor hen a phyramidiau'r Aifft, ac yn agos i rai o'r cerrig sefyll talaf yng Nghymru yn dyddio nôl i'r Oes Efydd. Mae traeth Llanddwyn a Fforest Niwbwrch, gyda'i lwybrau cerdded a beicio, ond taith fer i ffwrdd, yn ogystal â Sw Môr Môn a Phlas Newydd sydd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Mae Fferm y Foel hefyd tu allan y pentref ac yn boblogaidd iawn gyda plant, sydd yn medru dal yr anifeiliaid a mynd ar reid ar y tractor. Mae Parc Cenedlaethol Eryri tua 12 milltir i ffwrdd gyda'i lynnoedd, mynyddoedd a chestyll. 

Gwres canolog. Trydan di cynnwys.

Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig  

Cot a chadair uchel ar gael   

Mwyafrif o 4 oedolyn

Dim ysmygu y tu mewn   

Lleoliad